SL(6)135 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2022

Cefndir a diben

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 (“Deddf 1984”) yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2022 (“y Rheoliadau”) wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 45C(1) a (3)(c) a 45P(2) o Ddeddf 1984 mewn ymateb i'r bygythiad i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad haint COVID-19.

Mae’r Rheoliadau’n diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (“y prif Reoliadau”), gan gael effaith o 15 Ionawr 2022, er mwyn:

·         darparu, o dan y cyfyngiadau Lefel Rhybudd 2 yn Atodlen 2 i’r prif Reoliadau, y caiff hyd at 500 o bobl fod yn bresennol mewn digwyddiad yn yr awyr agored (gan godi’r terfyn o 50). Nid yw'r ffigur hwn yn cynnwys personau sy'n gweithio neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol yn y digwyddiad. Yn ogystal, pan fo'r digwyddiad yn ddigwyddiad camp tîm, mae'r prif Reoliadau yn trin aelodau o'r timau a'r rheini sy'n darparu hyfforddiant neu sy’n cynorthwyo’r timau fel arall fel pe baent yn gweithio yn y digwyddiad;

·         gwneud mân ddiwygiad i reoliad 16 o’r prif Reoliadau, gan ychwanegu cyfeiriad at “Gam 4”, sy’n ganlyniadol ar y newidiadau a wnaed i’r prif Reoliadau gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 25) 2021 .

Gweithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Caiff y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

 

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y pedwar pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodwn y torrir y rheol 21 diwrnod (h.y. y rheol y dylai 21 diwrnod fod rhwng y dyddiad y gosodir offeryn “gwneud negyddol” gerbron y Senedd a'r dyddiad y daw'r offeryn i rym), a'r esboniad am dorri’r rheol a ddarparodd Mark Drakeford AS, Prif Weinidog, mewn llythyr at y Llywydd, ar 14 Ionawr 2022.

Nodir y canlynol yn y llythyr at y Llywydd:

“Yn unol ag adran 11A(4) o Ddeddf Offerynnau Statudol 1946 rwy’n eich hysbysu y bydd yr offeryn statudol hwn yn dod i rym ar ddechrau’r dydd ar 15 Ionawr 2022, lai na 21 o ddiwrnodau ar ôl iddo gael ei osod. Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn ymateb i’r dystiolaeth newidiol ar y coronafeirws, yn arbennig yr amrywiolyn Omicron.”

2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodwn gyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol. Yn benodol, nodwn y paragraff a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:

“Er bod y prif Reoliadau, fel y’u diwygir gan y Rheoliadau hyn, yn cyffwrdd â hawliau unigol o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 a’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, mae’r Llywodraeth o’r farn bod modd eu cyfiawnhau er mwyn atal lledaeniad clefydau heintus a/neu fod hawl i wneud yr ymyriad ar y sail ei fod yn ceisio cyflawni nod dilys, sef diogelu iechyd y cyhoedd. Mae’r Llywodraeth hefyd o’r farn eu bod yn gymesur.

Mae’r prif Reoliadau yn cyffwrdd ag Erthygl 5 (yr hawl i ryddid), Erthygl 8 (yr hawl i barch at fywyd preifat a theuluol), Erthygl 9 (yr hawl i ryddid mynegiant, cydwybod a chrefydd), Erthygl 11 (yr hawl i ymgynnull ac ymgysylltu’n rhydd ag eraill) ac Erthygl 1 o’r Protocol Cyntaf (diogelu eiddo).

Mae pob un o’r rhain yn hawliau amodol, sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru ymyrryd ag arfer yr hawliau os oes angen gwneud hynny mewn cymdeithas ddemocrataidd er budd diogelwch y cyhoedd neu er mwyn diogelu iechyd.  Rhaid cyfiawnhau’r holl gyfyngiadau a gofynion o’r fath ar y sail mai eu bwriad yw cyflawni nod dilys, sef diogelu iechyd y cyhoedd, a’u bod yn gymesur.  Rhaid hefyd cydbwyso unrhyw ymyrraeth â’r hawliau hyn â rhwymedigaethau cadarnhaol y wladwriaeth o dan Erthygl 2 (yr hawl i fywyd). Mae addasu’r cyfyngiadau a’r gofynion o dan y prif Reoliadau drwy’r Rheoliadau hyn yn ymateb cymesur i ledaeniad y coronafeirws.  Mae'n cydbwyso'r angen i gynnal ymateb priodol i'r bygythiad a achosir gan y coronafeirws yn erbyn hawliau unigolion a busnesau, mewn modd sy'n parhau'n gymesur â'r angen i leihau cyfradd trosglwyddiadau'r coronafeirws, gan ystyried y dystiolaeth wyddonol.”

3. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodwn na fu unrhyw ymgynghori ffurfiol ar y Rheoliadau hyn. Yn benodol, nodwn y paragraff a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:

“Oherwydd y bygythiad difrifol ac uniongyrchol sy’n deillio o’r coronafeirws a’r angen am ymateb iechyd y cyhoedd brys, ni chynhaliwyd unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Fodd bynnag, ymgysylltwyd ag amrywiol randdeiliaid gan gynnwys Is-adran Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru.”

4. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodwn nad oes asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb ar gyfer y Rheoliadau a gofynnwn i Lywodraeth Cymru esbonio pa drefniadau y mae wedi eu gwneud, mewn perthynas â'r Rheoliadau, i gyhoeddi adroddiadau o’r asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb yn unol â rheoliad 8(1)(d) o Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â phwynt rhinweddau 4 yn unig.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

18 Ionawr 2022